The Egryn Abersoch
image

Croeso

Os yr ydych yn chwilio am y lleoliad perffaith i aros ym mhentref Abersoch yna Egryn yw'r lle i chi. Mae ein fila Edwardaidd hardd wedi ei lleoli'n ddelfrydol yn Abersoch, hanner ffordd rhwng canol y pentref a'r prif draeth. Gallwch anghofio am y car ar ôl i chi gyrraedd oherwydd mae popeth yr ydych ei angen yn Abersoch o fewn 5 munud o gerdded braf.

Mae gennym 8 ystafell wely en-suite, gyda nifer yn ystafelloedd teulu a'r rhan fwyaf gyda golygfeydd o'r môr neu'r mynyddoedd. Gallwn hefyd gynnig 2 swît foethus i'r rhai ohonoch sydd angen ychydig mwy o le gyda'r hwylusrwydd o gael cegin gali - delfrydol i oeri/cynhesu diodydd a pharatoi picnic i'r traeth. Gellir cael mynediad o'r switiau i batio bach ac ardal bbq.

Mae Egryn ar agor pob diwrnod gan gynnwys diwrnod Nadolig a dros y Flwyddyn Newydd. Felly os yr ydych yn bwriadu dod i Abersoch edrychwn ymlaen i'ch croesawu i'r Egryn .... drachefn a thrachefn a thrachefn!

Os yr hoffech gael golwg ar sylwadau rai o'n cwsmeriaid am Egryn yna cliciwch yma